Cwestiynau Cyffredin

Dyma adran sy’n dangos y cwestiynau cyffredin efallai fydd o ddefnydd i chi wrth drefnu eich ymweliad â Fferm Morfa.

 

  1. Gawn ni ddod â’n cŵn/anifeiliaid anwes?

Gallwch. Mae Morfa yn [croesawu anifeiliaid anwes] i’r sawl sy’n aros mewn carafán neu yn y gwersyll. Os ydych yn aros yn y tŷ bynciau neu’r bwthyn, cysylltwch â’r perchnogion i’w trafod.

  1. Ga’i dalu gyda fy ngherdyn debyd/credyd?

Ar hyn o bryd gallwn ond derbyn arian parod neu siec yn Fferm Morfa. Does dim peiriant “chip and pin” na pheiriant arian parod ar y safle, felly cynghorir i westeion dod â digon o arian i bara trwy gydol eich arhosiad. Mae peiriannau arian parod ar gael yn y pentrefi cyfagos.

  1. Oes rhaid dod â dillad gwely?

Oes, rydym yn cynghori gwesteion sy’n aros mewn carafán i ddod â dillad gwely, er darperir blancedi a chlustogau. Cynghorir i’r sawl sy’n aros yn y tŷ bynciau i ddod â sach cysgu neu dduvet, neu gallwch logi duvet wrth gyrraedd.

  1. Oes yna siop yn agos?

Mae siop ar y safle gyda phapurau newydd, hufen iâ, offer pysgota, nwy, teganau a bwydydd ar gael, ynghyd ag wyau o’r fferm. Mae gorsaf betrol a siop ym mhentref Llanrhystud, ddim yn bell o Morfa.

  1. Ga’i ddefnyddio’r llithrfa?

Gall unrhyw un o’n westeion defnyddio’r llithrfa, pa bynnag llety yr ydych yn aros ynddo. Ar ôl i ni dderbyn copi o’ch yswiriant cwch byddwn yn darparu trwydded ar gyfer y llithrfa i’w harddangos ar eich cwch.

  1. Oes angen trwydded i bysgota?

Rhaid cael trwydded gwialen bysgota er mwyn pysgota ar yr afon Wyre.

  1. Oes ‘na lefydd i fwyta allan yn yr ardal?

Mae ‘na digon o ddewis o lefydd bendigedig i fwyta yng Ngheredigion, a gall ei staff rhoi cyngor ar le i fynd, yn seiliedig ar eich hoffterau.

  1. Oes traeth tywod yna?

Ydy, mae’r traeth yn dywodlyd, ond pan fo’r llanw i mewn gellir ond gweld ardal greigiog y traeth.

  1. Sut mae’r cludiant cyhoeddus?

Mae maes carafanau Morfa awr i ffwrdd o borthladd Aberaeron. Mae’r fferi yn ôl ac ymlaen i Rosslare, yn yr Iwerddon, yn gadael yn rheolaidd.

Mewn car ewch ar yr A487 o Aberystwyth tuag at Aberaeron. Ar ôl fynd trwy Lanrhystud cadwch at y dde wrth yr orsaf betrol, a dilynwch y ffordd ar y chwith tuag at y traeth. Mae’r troad olaf ar y dde, cyn y traeth, yn mynd â chi at y fferm.

Mae ‘na fysiau – ar gyfnodau rheolaidd – yn teithio rhwng Aberystwyth a Chei Newydd gan roi dewis o nifer o lefydd diddorol a phrydferth i chi ymweld â hwy.

  1. Ga’i dalu mewn rhandaliadau?

Mae cynlluniau talu yn seiliedig ar argaeledd, ac ar benderfyniad y perchnogion. Fel arfer gofynnir am flaendal wrth fwcio carafan neu’r bwthyn.

  1. Ga’i fwcio’r tŷ bynciau yn ei gyfanrwydd, neu ystafell gyfan?

Cewch. Mae prisiau ar gael ar gyfer bwcio’r tŷ bynciau yn ei gyfanrwydd, ynghŷd â phrisiau gostyngedig.

  1. Rydw i’n bwriadu cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion. Ydych chi’n medru trefnu i ddanfon fy magiau ymlaen?

Ie, gallwn drefnu i ddanfon eich bagiau ymlaen at eich llety ar gyfer y noson nesaf.

  1. Ydy’r safle yn ddiogel i blant a phobl ag anableddau?

Mae’r holl safle yn hollol ddiogel i blant, gyda nifer o ddulliau diogelu mewn lle. Rydym hefyd wedi gweithio’n galed i wella hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau, a gallwch drafod hwn trwy gysylltu â [email protected] <mailto:[email protected]>

  1. A fydd fy offer costus yn ddiogel wrth aros yn Fferm Morfa?

Mae ardaloedd diogel ar gael i westeion cadw eu hoffer dan glo.

  1. Ydy’r cyfleusterau sydd ar gael yn dibynnu ar ba more hir rydw i’n aros?

Mae adnoddau Fferm Morfa ar gael i’n holl westeion, gan gynnwys siop, ystafell snwcer/gemau, cwrt tenis, llithrfa preifat, man chwarae i blant a chyfleusterau storio.

 

Diweddaraf O Twitter