Ymlaciwch, rydych chi wedi cyrraedd Fferm Morfa. Mae ein maes carafannau teuluol wedi bod yn creu atgofion ers 1928. Y rheswm yw ein lleoliad ar flaendraeth arfordir Bae Ceredigion, tafliad carreg o’r traeth. Mae Llwybr Arfordir Cymru ar garreg ein drws, a gyda digonedd o chwaraeon dŵr a machlud i fynd â’ch anadl, mae rhywbeth i’w fwynhau o hyd. Mae hefyd gyda ni un i’r unig lithrfeydd yn yr ardal y gall ein holl westeion ei ddefnyddio. Felly, os ydych yn aros mewn [carafán], [y tŷ bynciau], [bwthyn], neu’n [gwersylla], rydych yn siŵr o gael gwyliau i’w gofio.

 

Cyn i ni fod yn lleoliad gwyliau, ffermio oedd busnes y teulu, ac mae fferm fawr yn bodoli hyd heddiw. Gall westeion mwynhau awyrgylch y fferm a gweld nifer o anifeiliaid yn crwydro’r caeau. Er i ddulliau a pheiriannau newid dros y blynyddoedd, mae ein hegwyddorion wed aros yr un fath, ac rydym yn ymfalchïo yn natur gyfrifol ein dulliau ffermio a’n perthynas gyda chyflenwyr lleol.

 

Roedd ym 1928 pan agorwyd ein drysau am y tro cyntaf i wersyllwyr, a chred nifer i hwn gychwyn twristiaeth yn y Sir. Ac wrth i dwristiaeth datblygu, felly hefyd gwnaeth Fferm Morfa, wrth i ni anelu at helpu pobl i fwynhau eu hamser hamdden trwy agor ein safle carafannau yn ystod y 1950au. Dros y blynyddoedd mae’r parc a’r mwynderau wedi cynyddu, gan wneud Fferm Morfa yn lloches i bob math o westeion, yn enwedig; [teuluoedd], [cerddwyr], [perchnogion cychod] a [charwyr y traeth].

 

Yn ddiweddar rydym wedi ychwanegu bwthyn a thŷ bynciau amlbwrpas at yr opsiynau i’r sawl sydd am ymweld â Fferm Morfa. Gyda chymaint o bethau i’w wneud rydym yn falch o’r nifer o westeion sy’n dewis i ddychwelyd tro ar ôl tro, a’r nifer o ffrindiau rydym wedi’u gwneud dros y blynyddoedd.

 

Gobeithiwn eich gweld cyn bo hir

 

Pawb yn Fferm Morfa

Diweddaraf O Twitter