Gweithgareddau ar ein safle

Mae nifer o ymwelwyr yn aros ar ein safle trwy gydol eu harhosiad, gan fod cymaint i’w weld ac i’w wneud. Mae pob un o’n dewisiadau [llety] yn darparu awyrgylch cysurus i ddarllen, ymlacio neu fwynhau’r olygfa. Gallwch wneud y rhain i gyd wrth eistedd y tu allan ar feinciau ac ardaloedd eistedd ar draws y safle.

Mae’r traeth, wrth gwrs, yn cynnig ystod eang o weithgareddau ac rydym yn lwcus ein bod yn medru cynnig llety ar lannau Bae Ceredigion. Mae traeth tywod ar gael pan fo’r llanw allan, can mae adeiladu cestyll tywod a chwarae gemau ar y traeth yn boblogaidd gydag ymwelwyr hen ac ifanc. Mae ardaloedd creigiog y traeth yn berffaith ar gyfer archwilio’r pyllau, casglu broc môr a chynnal BBQ.

Mae adnoddau Fferm Morfa ar gael i’r sawl sy’n aros yn y gwersyll hefyd, gan gynnwys siop, ystafell snwcer/gemau, cwrt tenis, llithrfa breifat, man chwarae i blant a chyfleusterau storio.

Oriel

Click on the thumbnails below to show a larger image.

Diweddaraf O Twitter